Beibl Gweithgaredd y Plant i blant dros 7 oed


Beibl Gweithgaredd y Plant i blant dros 7 oed
Download on the AppStore Click here to request a review of this app

  • App Store Info

Description

Storïau o’r Beibl a gweithgareddau ar gyfer plant i wneud dysgu’r Beibl yn fwy effeithiol!
• 42 Stori o’r Beibl gyda mwy nag 84 o bosau, cwisiau, lluniau i’w lliwio a gwahaniaethau i’w canfod.
• Dysgwch ar ddyfais (iPad, iPhone neu iPod), ar sgrîn fawr (VGA, HDMI neu deledu Apple) neu argraffwch y taflenni.
• Helpwch blant dros 7 oed i ddysgu’r storïau’n well, deall eu neges a’u cofio am byth mewn ffordd y byddant yn ei mwynhau.
Profwch cyn prynu: 12 Stori o’r Beibl YN RHAD AC AM DDIM gyda 24 gweithgaredd gwahanol. Cynnig arbennig ar yr App Store yn unig!

Yn seiliedig ar ‘Y Beibl Gweithgaredd’ sydd â gwerthiant uchel ledled y byd. Cyhoeddwyd yn UDA, Ewrop, Awstralia ac Africa a golygwyd mewn mwy na 15 iaith.

ENILLYDD – Llyfr Plant y Flwyddyn (adran dan 12), gwobrau ‘Christian Resources Together’

*** Cofiwch am yr app Beibl Gweithgaredd y Plant Lleiaf i blant dan 7 oed, lle ceir yr un storïau wedi eu hadrodd yn symlach ynghyd â gweithgareddau wedi’u haddasu. ***

>> Beth yw hwn?
Mae app Beibl Gweithgaredd y Plant i blant dros 7 oed yn app ar gyfer iPhone, iPod touch, iPad ac iPad Mini sy’n cynnwys 42 Stori o’r Beibl ac 84 o weithgareddau.

>> Pwy sy’n ei ddefnyddio?
- Teuluoedd yn y cartref
- Ysgolion Sul
- Ysgolion Cynradd
- Grwpiau Astudiaeth Feiblaidd
- Gwersylloedd Cristnogol

>> Sut y gallaf ei ddefnyddio?
Gallwch ddarllen y storïau a chwblhau’r gweithgareddau mewn 3 gwahanol ffordd:
1. Ar y ddyfais.
2. Eu taflunio ar sgrîn fawr gyda thaflunydd ‘pico’ neu eu dangos ar deledu mawr.
3. Neu argraffu’r storïau neu’r gweithgareddau er mwyn gweithio arnynt yn y ffordd draddodiadol.

Gallwch hefyd ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau. Gweler isod rai enghreifftiau o sut y gellir ei ddefnyddio:

- Gartref
Mae Mari yn addysgu Storïau o’r Beibl i’w dau blentyn. Gan mai dim ond un iPad sydd ganddynt maent yn darllen y storïau ar yr iPad ac, yn eu tro, mae’r naill blentyn yn cwblhau’r gweithgareddau ar yr iPad a’r llall ar bapur. Mae plant Mari wrth eu bodd yn defnyddio’u iPad gartref – nid yn unig ar gyfer gemau, ond hefyd i ddysgu Storïau o’r Beibl.

- Yn yr Ysgol Sul
Athro Ysgol Sul yw Ioan sydd yn hoffi dysgu Storïau o’r Beibl mewn steil gyda’i iPhone. Felly mae’n cysylltu ei iPhone â thaflunydd ‘pico’ er mwyn dangos y storïau ar sgrîn fawr. Gan nad oes gan y plant iPads yn yr Ysgol Sul, mae Ioan yn argraffu hynny o daflenni gweithgareddau ag y mae eu hangen arno er mwyn i’r plant gael eu cwblhau â phensiliau lliw.

- Mewn Ysgol Gynradd
Athrawes mewn Ysgol Gynradd yw Sian. Gan fod set o iPads ar gyfer y plant yn yr ysgol, mae hi’n dysgu’r storïau trwy eu taflunio o’i iPad ac mae’r plant yn cwblhau’r gweithgareddau ar eu iPad eu hunain mewn dull 1-i-1. Mae Sian wrth ei bodd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i addysgu Storïau o’r Beibl.

>> Cynnwys
Mae testun y storïau i gyd yn driw i’r cyfieithiad cyflawn o’r Beibl tra’u bod ar yr un pryd yn cael eu hailadrodd mewn dull sydd yn addas ar gyfer plant dros 7 oed.

Cynlluniwyd y gweithgareddau yn ofalus gan ddangos teyrngarwch a’r parch mwyaf tuag at y Beibl.

Yma cewch storïau Adda, Noa, Abraham, Isaac, Joseff, Moses, Dafydd, Jona, a digwyddiadau bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Mae’r cynnwys i gyd yn gyfan gwbl seiliedig ar y Beibl.

>> Nodweddion
- App byd-eang (iPad ac iPhone).
- Yn cychwyn yn sydyn ac yn hawdd i’w ddefnyddio.
- Gallwch ei ddefnyddio yn all-lein os ydych wedi lawrlwytho’r storïau ymlaen llaw.
- Cysylltwch eich dyfais â thaflunydd gyda VGA, HDMI neu deledu Apple.
- Cysylltwch eich dyfais ag argraffydd Wi-Fi.
- Argraffwch un stori, y storïau i gyd neu eich detholiad ohonynt.
- Argraffwch hynny o gopïau ag y mae eu hangen arnoch.
- Argraffwch mewn gosodiad portread neu dirlun.
- Ychwanegwch farciau ar gyfer tyllau ar y taflenni.

Defnyddiwch yr ebost [email protected] os bydd arnoch angen cymorth a chefnogaeth os gwelwch yn dda.

What's New in Version 1.0

This app has been updated by Apple to use the latest Apple signing certificate.

Screenshots

Screenshot 1 of 8 Screenshot 2 of 8 Screenshot 3 of 8 Screenshot 4 of 8 Screenshot 5 of 8 Screenshot 6 of 8 Screenshot 7 of 8 Screenshot 8 of 8