Brawddegau Iaith Gyntaf


Brawddegau Iaith Gyntaf
Download on the AppStore Click here to request a review of this app

  • App Store Info

Description

Amcan yr ap iaith Llythrennedd - Brawddegau yw i ti gwblhau cymaint o eiriau ag sy’n bosibl, cyn i'r amser dy guro.
Mae yna 6 gêm wahanol sef Cwestiynau; Yn yr ysgol; Mynegi barn; Heddiw, ddoe ac yfory; Disgrifio ac Idiomau a diarhebion. O fewn pob gêm mae tair haen sydd wedi’u graddio.
Rwyt ti’n cwblhau geiriau trwy glicio ar y llythrennau ar waelod y dudalen a bydd y llythyren yn symud i’r bocs coch. Mae clicio llythyren yn y bocs yn symud hi yn ôl i waelod y dudalen.
Am bob gair cywir, rwyt ti’n ennill pwyntiau. Os bydd gair yn anghywir byddi di’n colli pwyntiau.
Ar ôl i air gael ei gwblhau yn gywir fe fydd 'tic' yn ymddangos ger yr ateb. Bydd y cwestiwn nesaf yn ymddangos yn awtomatig.
Mae’n rhaid cael chwech allan o ddeg yn gywir i agor yr haen nesaf - dyma sut mae’n bosibl symud ymlaen i haen 2 ac yna i haen 3.
Yn ychwanegol i'r bonws am gwblhau’r gair rwyt ti’n cael bonws amser os wyt yn cwblhau'r deg cwestiwn o fewn yr amser.
Mae’r botwm seren oren ar ochr chwith y gêm yn rhoi help i ti ond byddi di’n colli pwyntiau wrth ei ddefnyddio.
Ar ddiwedd y gêm, os wyt ti wedi ennill digon o bwyntiau fe fydd dy sgôr i’w weld ar y sgôrfwrdd.

What's New in Version 1.2

This app has been updated by Apple to display the Apple Watch app icon.

Screenshots

Screenshot 1 of 6 Screenshot 2 of 6 Screenshot 3 of 6 Screenshot 4 of 6 Screenshot 5 of 6 Screenshot 6 of 6